Mae’r retro-rockers Caerdydd ‘Angel Hotel’ yn ôl gyda cân heintus arall sy’n siŵr o fynd yn sownd yn eich pen. Eu trac newydd ’Oumuamua’ sy’n cael ei ganu’n gyfan gwbl yn Gymraeg, yw’r trac diweddaraf i arddangos eu gallu dwyieithog naturiol. Wedi’i disgrifio fel “teyrnged chwareus, tafod-mewn-boch i’r gwrthrych gofod dirgel“, mae’r gân yn cyfuno alawon a synths unigryw Angel Hotel gyda chwarae ar eiriau clyfar.
Meddai’r canwr Siôn, “Cawsom hwyl fawr yn ysgrifennu a recordio cân am aliens, rydym wrth ein bodd yn meddwl beth allai fod allan yna, gan obeithio o bryd i’w gilydd nad ydym ar ein pennau ein hunain. Ac roedd y fideo yn hwyl i’w saethu o amgylch ein tref genedigol. Allwn ni ddim aros i bawb glywed ein hantur cosmig Gymraeg.”
Ar ôl cynnydd cyson gyda senglau fel ’Key Largo’ a ’Bump’, mae Angel Hotel yn parhau i gyflwyno “tiwn ar ôl tiwn a dim arwyddion o stopio“ (). Gyda sylw gan cyson gan raglenni radio BBC, premières fideo S4C, a’u dawn ar gyfer pop chwaethus, mae’r diweddaraf gan Angel Hotel allan o’r byd!
Fideo gan Rhys Davies.
Geiriau/Lyrics:
O ti di’ clywed am y carreg yn y gofod
Omuamua
Yr un nath crwydro o fydysawd tramor
Omuamua
A wnei di ddod a peth atebion i ni
Omuamua
A falle codi’r cwmwl dros fy mhen i
Omuamua
Well helo, shwmae - neis i gwrdda ti
Hoffen ni ymlacio ar dy long ofod di
Mae’r technoleg yn aruthrol nei di ddangos e i mi
Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i
A wnei di gymryd fi yn bell or hên le ’ma
Omuamua
Blynyddoedd golau i ffwrdd or holl ddrama
Omuamua
I wareiddiad hyfryd yn y galaeth nesa’
Omuamua
Fe glywais i ei fod yn debyg i Bethesda
Omuamua
Well helo, shwmae - neis i gwrdda ti
Hoffen ni ymlacio ar dy long ofod di
Mae’r technoleg yn aruthrol nei di ddangos e i mi
Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i
Mae’r gwybodaeth yn anferthol a bach yn gymleth i mi
Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i
Label cyhoeddi - Recordiau Cosh
Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴
New Welsh music and contemporary culture 🏴
Gwasga’r botwm ’Subscribe’
TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
1 view
399
103
2 months ago 00:35:41 1
#ГорожанеLIVE: Золото Наполеона, Sup-серфинг, Смоленск как центр мира
2 months ago 00:05:22 1
DERNIER SURVOL OVNI: LA DIVULGATION EN TRAIN DE SE DÉROULER @danihenderson-GSIC @ElenaDanaan
2 months ago 00:02:36 1
Отель Хазбин - Яд | Песня Энджел Даста | Hotel Hazbin - Poison - кавер на русском
2 months ago 01:23:10 1
Calin Geambasu Band - Full Live TV Show - 2018
2 months ago 00:08:02 1
Terminó la PELEA y en el HOTEL sucedió la TRAGEDIA que cambió el boxeo | PEDRO ALCARAZ Historia
2 months ago 00:03:46 1
Fatboy Slim ft. Bootsy Collins - Weapon Of Choice [Official 4k Video]
2 months ago 00:03:18 1
Falling In Reverse - “Ronald“ (feat. Tech N9ne & Alex Terrible)
2 months ago 00:04:43 1
ОН САМЫЙ ДЛИННЫЙ! КАК И ИЗ ЧЕГО Я СДЕЛАЛА ВАЛЕНТИНО ОТЕЛЬ ХАЗБИН/HAZBIN HOTEL? OOAK - MISAKI PAINT
2 months ago 00:20:00 1
La Noche de Terror en la Habitación del Hotel Abandonado - Spanish Story | #historiasdeterror,
2 months ago 00:20:13 1
Exposer la VÉRITÉ sur les camps de sans-abri à Montréal : où va tout le financement ?